Gresford Community Council
  • HOME AND LATEST NEWS
    • Contact Us
    • Website Accessibility Statement
    • COVID-19:COMMUNITY SUPPORT AND INFORMATION
    • COUNCIL NOTICES AND INFORMATION
    • COMMUNITY ENGAGEMENT >
      • FREQUENTLY ASKED QUESTIONS
    • COMMUNITY SPOTLIGHT!
    • COMMUNITY INFORMATION >
      • Gresford Village Fountain
    • ADFER Y FFYNNON DDŴR 2014
    • Gresford Village Lake
    • Photo Gallery
  • Meetings
    • AGENDAS AND PAPERS
    • Calendar of Meetings 2021-2022
    • Minutes of Council Meetings
    • Minutes of Committee Meetings
    • Past Council Meeting Agendas
    • Past Committee Agendas
    • Archived Committee Meetings
    • Archived Minutes of Meetings
  • COMMUNITY AGENT
  • COUNCIL BUSINESS
    • What does the Council do?
    • BETH MAE’R CYNGOR YN EI WNEUD?
    • The Councillors
    • COUNCIL VACANCIES
    • Committees
    • Cemetery
    • Freedom of Information and Data Protection
    • Council Policies
    • FINANCIAL DOCUMENTS >
      • Annual Audited Accounts
      • Annual Budgets
      • Annual Investment Strategy
      • Councillors' Expenses
      • Grant Applications
      • Risk Management Strategy
      • Statement on Reserves Policy
    • Y FYNWENT
    • RHYDDID GWYBODAETH
  • Contact Us
  • LINKS
  • ARCHIVED NEWS
  • HOME
PWERAU STATUDOL A PHWERAU ERAILL GAIFF EU HARFER GAN GYNGOR CYMUNED GRESFFORDD ERS EI SEFYDLU AR 1af EBRILL 1985 (yn nhrefn y wyddor)             


Y FYNWENT


Yn 2004 cymerodd y Cyngor Cymuned gyfrifoldeb dros reoli a darparu gwasanaethau yn y dyfodol ym Mynwent Gresffordd, mewn ymdrech i gadw’r costau rhedeg a chynnal y safonau uchel sy’n angenrheidiol ar gyfer mynwent yn y 21ain ganrif.

GOLEUADAU’R NADOLIG

Ers 2008, mae Cyngor Gresffordd wedi cefnogi IMAGE drwy ddarparu coeden Nadolig ger y Swyddfa Bost.

YMGYNGHORIADAU

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Ganolog a’u Hasiantau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Asiantaeth Amgylchedd Cymru a Dŵr dŵr yn gofyn am sylwadau ac arsylwadau ynglŷn ag unrhyw newidiadau neu welliannau maen nhw’n eu rhagweld.

Drwy anogaeth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, sefydlodd y Cyngor Cymuned grŵp amgylcheddol yn 2001 a alwyd wedyn yn IMAGE.  Bellach, mae’n ei reoli ei hun gyda’r nod o wella Cymuned Gresffordd.  Mae gwelliannau i’r pentref yn cael eu cefnogi unwaith eto gan IMAGE a’r Cyngor Cymuned mewn ymdrech i ddod ag adfywiad amgylcheddol ac economaidd i’r gymuned, yn enwedig i’r ardal o amgylch y siopau.

CYMORTH ARIANNOL

Rhoddir cyfraniadau blynyddol i sefydliadau lleol a sefydliadau elusennol cenedlaethol tuag at gostau rhedeg amrywiol gyrff.  Fel hyn mae’r Cyngor Cymuned yn cynorthwyo i redeg Ymddiriedolaeth Gresffordd, IMAGE, Grwp Gweithredu Maes-y-Pant sy’n datblygu Chwarel Marffordd a Chanolfan Gymuned Marffordd.

LLWYBRAU CERDDED

Mae’r Cyngor Cymuned yn cynorthwyo’r Awdurdod Unedol i nodi rhwystrau a chadw’r llwybrau cerdded yn agored yn y Gymuned er mwyn hybu’r ymgyrch ‘Hawliau Tramwy’ cenedlaethol.

LLYN (neu’r Pwll Hwyaid)

Mae’r atyniad poblogaidd hwn yn berchen i’r Cyngor Cymuned a chaiff ei gynnal a’i gadw gyda chymorth diolchgar Cymdeithas Preswylwyr Glan Llyn.

Mae’r Cyngor yn ariannu darparu goleuadau i’r llwybr cerdded drwy’r Gymuned ac mewn mannau cyhoeddus, er enghraifft ger Cwt y Sgowtiaid.  Mae Neuadd Goffa Ymddiriedolaeth Gresffordd yn talu am ei oleuadau ei hun.  Mae’r Awdurdod Unedol yn gwneud y gwaith cynnal a chadw o dan gytundeb gyda’r Cyngor Cymuned a darperir ynni gan Scottish Power.

SBWRIEL
Darperir biniau sbwriel mewn mannau cyhoeddus ar gost y Cyngor Cymuned a chant eu gwagio gan yr Awdurdod Unedol.  Hefyd, rhoddir cymorth i fentrau Grŵp Cadw Cymru’n Daclus.

AMRYWIOL
Drwy weithredu fel grŵp ymgyrchu gydag awdurdodau eraill, mae Cyngor Gresffordd yn gwneud sylwadau i’r Heddlu a’r Awdurdod Iechyd a’r Cyngor Bwrdeistref Sirol er mwyn ceisio sicrhau nad yw gwasanaethau lleol yn dirywio ac er mwyn tynnu sylw’r darparwyr at ddiffygion.  Mae Swyddogion Gwasanaeth Cymunedol yr Heddlu’n mynychu Cyfarfodydd y Cyngor ac yn cymryd rhan gyda’r Cyngor mewn cyfarfodydd cyhoeddus eraill er mwyn codi ymwybyddiaeth o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y gymuned.

BYRDDAU GWYBODAETH/HYSBYSFYRDDAU
Mewn ymgais i ddarparu gwybodaeth i’r cyhoedd yn lleol ac yn genedlaethol, mae’r Cyngor wedi rhoi un bwrdd gwybodaeth ger Swyddfa’r Post ar ben draw Lôn y Pant, Marffordd ac ar Wefan Cyngor Cymuned Gresffordd.

CYNLLUNIO
Ceir copïau o’r holl geisiadau am ddatblygiadau o fewn y Gymuned gan yr Awdurdod Cynllunio (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam).  Caiff y rhain eu trafod yng nghyfarfodydd y Cyngor Cymuned a gwneir sylwadau i’r Awdurdod Cynllunio. 

MANNAU CHWARAE
Mae dwy ardal chwarae a hamdden i blant yn cael eu darparu a’u cynnal a’u cadw gan y Cyngor Cymuned.  Mae’r offer chwarae sefydlog yn y ddwy ardal wedi ei gynllunio i ddarparu ar gyfer datblygiad iach plant ac mae’n cynnwys siglenni, cylchdro ac offer dringo er mwyn i’r naill ardal gyd-fynd a’r llall. 

MEINCIAU CYHOEDDUS

Darperir meinciau a chant eu cynnal a’u cadw mewn mannau penodol drwy’r Gymuned.

GWASANAETH IEUENCTID

Mae dau Weithiwr Ieuenctid yn cael eu hariannu’n rhannol gan y Cyngor Cymuned: a rhoddir cymorth ariannol i’r Gwasanaeth Ieuenctid er mwyn cynnig rhai cynlluniau chwarae yn ystod gwyliau ysgol.

Location


Contact information
​
CLERK
[email protected]

​