Gresford Community Council
  • HOME AND LATEST NEWS
    • Contact Us
    • Website Accessibility Statement
    • COVID-19:COMMUNITY SUPPORT AND INFORMATION
    • COUNCIL NOTICES AND INFORMATION
    • COMMUNITY ENGAGEMENT >
      • FREQUENTLY ASKED QUESTIONS
    • COMMUNITY SPOTLIGHT!
    • COMMUNITY INFORMATION >
      • Gresford Village Fountain
    • ADFER Y FFYNNON DDŴR 2014
    • Gresford Village Lake
    • Photo Gallery
  • Meetings
    • AGENDAS AND PAPERS
    • Calendar of Meetings 2021-2022
    • Minutes of Council Meetings
    • Minutes of Committee Meetings
    • Past Council Meeting Agendas
    • Past Committee Agendas
    • Archived Committee Meetings
    • Archived Minutes of Meetings
  • COMMUNITY AGENT
  • COUNCIL BUSINESS
    • What does the Council do?
    • BETH MAE’R CYNGOR YN EI WNEUD?
    • The Councillors
    • COUNCIL VACANCIES
    • Committees
    • Cemetery
    • Freedom of Information and Data Protection
    • Council Policies
    • FINANCIAL DOCUMENTS >
      • Annual Audited Accounts
      • Annual Budgets
      • Annual Investment Strategy
      • Councillors' Expenses
      • Grant Applications
      • Risk Management Strategy
      • Statement on Reserves Policy
    • Y FYNWENT
    • RHYDDID GWYBODAETH
  • Contact Us
  • LINKS
  • ARCHIVED NEWS
  • HOME
ADFER Y FFYNNON DDŴR 2014


 





Ardal y ffynnon cyn y gwaith


Y PROSIECT

Roedd y grŵp gwirfoddol cymunedol IMAGE*, yn llwyddiannus yn ei gais am Grant Treftadaeth a Diwylliant gan Ogledd Gororau Cymru at ddibenion adfer y ffynnon ddŵr Fictorianaidd.   Cyfrannodd Cyngor Cymuned Gresffordd 25% o’r swm oedd ei angen er mwyn cyflawni’r prosiect.

Penderfynwyd y byddai’r arian grant hwn yn helpu i wireddu’r prosiect cyntaf fel rhan o gynllun Gwella Pentref Gresffordd.  Digwyddodd hyn o ganlyniad i Brosiect Dichonolrwydd Gwella’r Pentref 2013, a ariannwyd gan Gyngor Cymuned Gresffordd.

Roedd y ffynnon wedi ei hesgeuluso dros y blynyddoedd ers ei gosod yno.  Wedi ei chodi yn 1862, mae bellach wedi ei hadfer i’w chyflwr gwreiddiol cyn belled ag yr oedd modd. Cychwynnodd y gwaith ar y safle ar 21ain Hydref 2014 ac fe’i cwblhawyd ar 13eg Tachwedd 2014.  Roedd yn golygu glanhau’r prif strwythur yn ofalus, glanhau a chodi’r seddi carreg o bopty iddi, trwsio’r teils ceramig, pwyntio’r gwaith carreg gyda chalch, gosod cylch o balmant o flaen y ffynnon gyda cherrig Swydd Efrog, a chodi meinciau o gerrig Efrog.  

 
Yn ogystal â hyn, gosodwyd plac o ddur gwrthstaen er anrhydedd i’r gymwynaswraig, Anne Townshend, ble’r arferid gweld cylch gyda thestun annelwig arno.  Er mwyn cael cyn lleied â phosibl o arwyddion, rhoddwyd cod QR yno.  Gyda chymorth technoleg ffonau deallus, mae hwn yn cysylltu gyda gwefan Cyngor Cymuned Gresffordd.  Mae’r tap yn dal ar goll a’r gobaith yw y gallwn ariannu hynny hefyd yn ei dro. Nid oes bwriad i adfer y cyflenwad dŵr.

Cwmni Bell Stone Masonry o Gaer fu’n gwneud y gwaith adfer.  Mae’r sioe sleidiau’n dango

 

Y GYMWYNASWRAIG, ANNE TOWNSHEND

Hyd 1861, roedd cyflenwad dwr ffres Gresffordd yn un gwael iawn.  Pwll budr, sydd bellach yn cael ei alw’n llyn, oedd y lle mwyaf cyfleus i gael dŵr, ac yno’r ai’r trigolion i nôl bwcedaid ar y tro.  Roedd ffynhonnau’n bodoli ond roedden nhw’n 100-120 troedfedd o ddyfnder ac roedd hi’n anodd cael mynediad atynt felly.

A dyna Miss Anne Townshend yn camu i’r adwy!  Roedd hi’n ail ferch i John Stanislaus Townshend o Hem a Trevalyn, oedd yn byw yn Trevalyn House yn Rossett o 1801.  Roedd hi’n wraig eithaf cefnog a dylanwadol yn yr ardal, a bu'n byw yn Westwood House, Lôn y Ficerdy, Gresffordd yn ddiweddarach.   

Ganed Miss Townshend ar 3 Ionawr, 1797. Aeth ati ar hyd ei hoes i helpu rhai anghenus ym mha bynnag fodd y gallai.   Yn 1860, ceisiodd gymorth ei chyfeillion ac eginodd y syniad o adeiladu peiriant hydrolig awtomatig y tu ôl i Ffynnon y Santes Catherine (yn Lôn Waelod).   Cai’r dŵr ei bwmpio drwy bibell modfedd o led i danc dwr mewn cae yn y pwynt ble roedd yr hen ffordd Caer a Wrecsam yn croesi drwy’r pentref.   O’r tanc hwn, pwmpiwyd dŵr i bedwar tap: Un yng nghanol y pentref, un gyferbyn a’r Plough, un ger yr eglwys ac un ar gornel Lôn Gul.   Roedd gan bob un o’r bythynnod allwedd.  Roedd llif y dŵr yn araf iawn a thyfodd lleoliadau’r tapiau yn fannau cyfarfod a hel clecs i wragedd y tai! Gweithiodd y system hon rhwng 1861 a 1916.

 

Ar ôl hynny, yn 1862, Miss Townshend, cododd Miss Townshend y ffynnon ddŵr yr ydym newydd ei hadfer, ar gyfer teithwyr.  Mae wedi ei lleoli ar y groesffordd rhwng Hen Ffordd Wrecsam a Ffordd caer, gyferbyn a’r Plough. Fe sefydlodd gronfa i dalu am osod y ffynnon.  Codwyd £200 mewn ffair yn y pentref.  Fe aeth hi ati i wau a gwerthu 500 o barau o sanau babanod yn ystod y tair blynedd a gymerodd i godi cyfanswm o £300 a 10 swllt ar gyfer y prosiect.  Roedd hwn yn swm anrhydeddus yn oes Fictoria, sy’n cyfateb i £32,000 heddiw.  

 

O bopty i’r ffynnon y mae dwy sedd garreg. Ar yr un ar y chwith, y mae’r dyddiad Gorffennaf 3ydd 1862, ac ar yr un ar y dde mae’r geiriau “Rest for the weary”.  Er gwaetha’r gwaith adfer, yn anffodus, nid oes modd gweld y geiriau rheiny'n glir.  O amgylch bwa carreg y ffynnon, credir i’r geiriau hyn gael eu naddu yno - “Praise God from whom all blessings flow. 1862”. Mae’r union eiriad yn ansicr ac mae’n anodd iawn eu darllen erbyn hyn.

 

 Bu farw Miss Townshend ar ôl sawl blwyddyn o ddioddef yn ddigwyn ym mis Ionawr 1873.  Mae ei bedd yn rhan ogledd orllewinol mynwent Gresffordd.   Ar ôl ei marwolaeth, cyflwynodd teulu’r Townshend ddarllenfa bres osgeiddig i’r eglwys, er cof amdani. Gosodwyd ffenestr liw yno hefyd er cof amdani hi a’i brawd, John.

 

Mae’r ffynnon yn unigryw.   Mae bellach yn gofeb i’r hen oes yng Ngresffordd ac rydym yn gobeithio y bydd pobl leol ac ymwelwyr hefyd yn falch o’i newydd wedd.  Os hoffech adael sylwadau amdani, gwnewch hynny drwy’r ddolen hon.   

*Grŵp AGENDA 21 Gwella Amgylchedd Marffordd a Gresffordd  


 

Cyfeiriadau  

Gresford Village and Church and Royal Marford              J.Colin Jones   1995

The Parishes of Gresford and Hope: Past and Present     Sydney Gardner Jarman  1899

Wrexham Leader    23 Mai 1972 t.13

A History of the Old Parish of Gresford   1904                     A. N. Palmer         ailargraffwyd 1987      Bridge Book


Location


Contact information
​
CLERK
[email protected]

​