Gresford Community Council
  • HOME AND LATEST NEWS
    • Contact Us
    • Website Accessibility Statement
    • COVID-19:COMMUNITY SUPPORT AND INFORMATION
    • COUNCIL NOTICES AND INFORMATION
    • COMMUNITY ENGAGEMENT >
      • FREQUENTLY ASKED QUESTIONS
    • COMMUNITY SPOTLIGHT!
    • COMMUNITY INFORMATION >
      • Gresford Village Fountain
    • ADFER Y FFYNNON DDŴR 2014
    • Gresford Village Lake
    • Photo Gallery
    • Down Memory Lane
    • HEL ATGOFION
  • Meetings
    • Calendar of Meetings and Agendas 2020-2021
    • Calendar of meetings 2019-20
    • Minutes of Council Meetings
    • Minutes of Committee Meetings
    • Past Council Meeting Agendas
    • Past Committee Agendas
    • Archived Committee Meetings
    • Archived Minutes of Meetings
  • COMMUNITY AGENT
  • COUNCIL BUSINESS
    • What does the Council do?
    • BETH MAE’R CYNGOR YN EI WNEUD?
    • The Councillors
    • COUNCIL VACANCIES
    • Committees
    • Cemetery
    • Freedom of Information and Data Protection
    • Council Policies
    • FINANCIAL DOCUMENTS >
      • Annual Audited Accounts
      • Annual Budgets
      • Annual Investment Strategy
      • Councillors' Expenses
      • Grant Applications
      • Risk Management Strategy
      • Statement on Reserves Policy
    • Y FYNWENT
    • RHYDDID GWYBODAETH
  • WHAT'S HAPPENING
    • Village Diary
    • IMAGE
    • Library
    • MAES Y PANT
    • Business Directory
    • Not for Profit Directory
    • Community Policing
    • Police News
  • MORE...
    • Contact Us
    • Register your Services and Businesses
    • LINKS
    • ARCHIVED NEWS
  • Blog
  • HOME
  • WHAT'S HAPPENING
MODEL O GYNLLUN CYHOEDDI DEDDF RHYDDID GWYBODAETH CYNGOR CYMUNED GRESFFORDD A FABWYSIADWYD GAN Y CYNGOR CYMUNED YN EI GYFARFOD AR 4YDD RHAGFYR 2008

AC YN EFFEITHIOL O’R 1af

IONAWR 2009            

Mae’r cynllun cyhoeddi model hwn wedi ei baratoi a’i gymeradwyo gan y Comisiynydd Gwybodaeth. Mae’n bosibl y caiff ei fabwysiadu heb ei addasu gan unrhyw awdurdod cyhoeddus heb gymeradwyaeth bellach a bydd yn ddilys hyd nes y nodir yn wahanol.Mae’r cynllun cyhoeddi hwn yn ymrwymo awdurdod i ddarparu gwybodaeth i’r cyhoedd fel rhan o’i weithgareddau busnes arferol. Mae’r wybodaeth dan sylw wedi ei chynnwys yn y dosbarthiadau o wybodaeth y cyfeirir atynt isod, ble mae’r wybodaeth hon wedi ei dal gan yr awdurdod. Rhoddir cymorth ychwanegol i ddiffinio’r dosbarthiadau hyn mewn llawlyfrau sy’n rhoi canllaw penodol i’r sectorau wedi eu cyhoeddi gan y Comisiynydd Gwybodaeth.Mae’r cynllun yn rhwymo Awdurdod:

• I gyhoeddi’n rhagweithiol neu fel arall ddarparu gwybodaeth fel mater o drefn arferol, gan gynnwys gwybodaeth amgylcheddol, sydd wedi ei dal gan yr awdurdod ac sy’n dod o fewn y dosbarthiadau isod.

• Manylu ar yr wybodaeth gaiff ei dal gan yr awdurdod ac sy’n disgyn o fewn y dosbarthiadau isod.     

• Cyhoeddi’n rhagweithiol neu ddarparu fel arall fel mater o drefn arferol, wybodaeth yn unol â’r datganiadau a gynhwysir yn y cynllun hwn.     

• Cynhyrchu a chyhoeddi’r dulliau a ddefnyddir i ddarparu’r wybodaeth benodol fel arfer fel y gellir ei adnabod yn rhwydd ac y gellir cael mynediad ato gan aelodau’r cyhoedd.

• Adolygu a diweddaru’n rheolaidd, unrhyw wybodaeth y mae’r awdurdod yn ei darparu o dan y cynllun hwn. 

• Cynhyrchu atodlen o unrhyw dal a godir am fynediad at yr wybodaeth sydd ar gael yn rhagweithiol.    

• Darparu’r cynllun cyhoeddi hwn i’r cyhoedd.            

Dosbarthiadau o wybodaeth.

Pwy ydym ni a beth ydym ni’n ei wneud.

Gwybodaeth drefniadol, lleoliadau a chysylltiadau, rheolaeth sefydliadol a chyfreithiol.

Faint rydym ni’n wario a sut rydym yn ei wario.

Gwybodaeth ariannol ynglŷn ag amcan incwm ac incwm gwirioneddol a gwariant, tendro, caffael a chytundebau.

Beth yw ein blaenoriaethau a sut rydym ni’n gwneud.

Gwybodaeth am strategaeth a pherfformiad, cynlluniau, asesiadau, archwiliadau ac adolygiadau.

Sut rydym ni’n gwneud penderfyniadau.

Cynigion a phenderfyniadau polisi. Prosesau gwneud penderfyniadau, meini prawf a gweithdrefnau mewnol, ymgynghoriadau.

Ein polisïau a’n gweithdrefnau

Protocolau ysgrifenedig cyfredol er mwyn cyflwyno ein swyddogaethau a’n cyfrifoldebau.

Rhestrau a chofrestrau.

Gwybodaeth a gedwir mewn cofrestrau sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith a rhestrau a chofrestrau eraill yn ymwneud a swyddogaethau’r awdurdod.

Y gwasanaethau a gynigiwn.    

Cyngor a chanllawiau, llawlyfrau a thaflenni, gweithrediadau a datganiadau i’r wasg. Disgrifiad o’r gwasanaethau a gynigir. Ni fydd y dosbarthiadau gwybodaeth yn cynnwys fel rheol:

• Gwybodaeth y mae’r gyfraith yn gwahardd ei datgelu, neu sydd wedi ei heithrio o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, neu yr ystyrir ei bod wedi ei hamddiffyn yn briodol rhag ei datgelu.

• Gwybodaeth ar ffurf drafft.

• Gwybodaeth nad yw ar gael yn rhwydd mwyach gan ei bod wedi ei chynnwys mewn ffeiliau sydd wedi eu gosod mewn storfa archif, neu y mae’n anodd cael mynediad ati am resymau tebyg.

Y dull y bydd gwybodaeth a gyhoeddir o dan y cynllun hwn ar gael.

Bydd yr awdurdod yn dangos yn glir i’r cyhoedd pa wybodaeth a gynhwysir yn y cynllun hwn a sut y gellir cael gafael ynddi. Lle mae hynny o fewn gallu awdurdod cyhoeddus, darperir gwybodaeth ar wefan. Lle mae’n anymarferol rhoi gwybodaeth ar gael ar wefan neu pan na fydd unigolyn yn dymuno cael mynediad at yr wybodaeth drwy’r wefan, bydd awdurdod cyhoeddus yn dynodi sut y gellir cael gafael ar wybodaeth drwy ddulliau eraill ac yn ei darparu drwy’r dulliau hynny. Mewn amgylchiadau eithriadol efallai y bydd peth gwybodaeth ar gael drwy ei weld yn bersonol yn unig. Lle bydd y dull hwn wedi ei nodi, darperir manylion cyswllt. Trefnir apwyntiad i weld yr wybodaeth o fewn amserlen resymol. Darperir gwybodaeth yn yr iaith y’i cedwir ynddi neu mewn iaith arall fel sy’n ofynnol yn gyfreithiol. Lle bydd y gyfraith yn ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdod gyfieithu unrhyw wybodaeth, bydd yn gwneud hynny. Cedwir at oblygiadau o dan ddeddfau anabledd a gwahaniaethu ac unrhyw ddeddfau eraill i ddarparu gwybodaeth mewn ffurfiau eraill, wrth ddarparu gwybodaeth yn unol â’r cynllun hwn.

Efallai y codir tâl am wybodaeth a gyhoeddir o dan y cynllun hwn.

 

Pwrpas y cynllun hwn yw darparu cymaint o wybodaeth a phosibl gan achosi’r anghyfleustra a’r gost leiaf bosibl i’r cyhoedd. Bydd taliadau a wneir gan yr awdurdod am ddeunydd a gyhoeddir yn arferol yn cael eu cyfiawnhau a byddant yn amlwg ac wedi eu cadw cyn ised â phosibl. Bydd deunydd a gyhoeddir ac y ceir mynediad ato ar wefan yn cael ei ddarparu am ddim. Efallai y codir tâl am wybodaeth yn amodol ar drefn codi tâl y bydd y Senedd yn rhoi manylion amdani.

Efallai y gwneir taliadau am dreuliau megis:

• llungopïo  

• postio a phecynnu   

• y costau a wynebir o ganlyniad i weld gwybodaeth             

Efallai y gwneir taliadau hefyd am wybodaeth a roddir o dan y cynllun hwn lle cant eu hawdurdodi’n gyfreithlon, maent yn yr amgylchiadau i gyd, gan gynnwys egwyddorion cyffredinol hawl mynediad gan awdurdodau cyhoeddus, a gyfiawnheir ac sy’n unol ag atodlen neu atodlenni a gyhoeddir o ffioedd sydd ar gael yn rhwydd i’r cyhoedd. Os oes tâl i’w godi, rhoddir cadarnhad o’r tâl dyledus cyn darparu’r wybodaeth. Efallai y gofynnir am dâl cyn darparu’r wybodaeth.

Ceisiadau ysgrifenedig

Gellir gwneud cais ysgrifenedig am wybodaeth a gedwir gan awdurdod cyhoeddus o dan y cynllun, pan ystyrir bod darparu hynny’n unol â darpariaethau’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

CYSYLLTU Â NI

Location


Contact information
​
CLERK
clerkgresford@gmail.com
​